Hen Destament

Salm 42:1-14 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Yr un wedd ag y bref yr hyddam yr afonydd dyfroedd:Felly y mae fy hiraeth iam danat ti o’r nefoedd.

2. Fy enaid i sychedig yw,am fy Nuw byw, a’i gariad:Pa bryd y dof fi gar dy fron?fy Nuw a’m cyfion ynad.

3. Fy nagrau oeddynt ddydd a nosyn fwyd ym’, achos gofynYm am fy Nuw bob pen awr bach,ple mae fo bellach? meddyn.

4. O gofio hyn wrthyf fy hun,fel tywallt ffun fy einioes:Ynghyd a theulu Duw yr awn,be cawn fy meddwl eisoes.Hyd at dy Dduw yn ystig iawnyr awn, dan ganu clodydd:Fel tyrfa a fai’n cadw gŵyl,hyn bum i’w ddisgwyl beunydd.

5. Trwm wyd f’enaid o’m mewn:paham y rhoi brudd lam ochenaid?

6. Disgwyl wrth Dduw, a doi gar bronei wyneb tirion cannaid.

7. Fy enaid o’m mewn pan fo prudd,a â yn rhydd o’th gofion:A chofio yr Iorddonen iâch,ar mynydd bâch o Hermon.

8. Dyfnder is dyfnderau y sydd,ac ar eu gilydd galwant:A dwfr pob ffrwd, pob llif, pob ton,hwy dros fy mron a aethant.

9. Fy Naf a roes y dydd ym’ hedd,a’r nos gyfannedd ganu,I ganmawl fy Nuw, hwn a roesym’ einioes iw foliannu.

10. Paham im’ gedyt dros gof cyd?Duw, wrthyd yr achwynaf.

11. Er gorthrymder y gelyn cam,mewn galar pa’m y rhodiaf?

12. Trwy f’esgyrn taro cleddyf llymmewn gwarthlid ym, oedd edliwYm’ om gelynion er fy ngwae,dy Dduw p’le mae fo heddiw?

13. Trwm wyd f’enaid o’m mewn:paham y rhoi brudd lam ochenaid?

14. Disgwyl wrth Dduw, a doi gar bronei wyneb tirion cannaid.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 42