Hen Destament

Salm 40:2-10 Salmau Cân 1621 (SC)

2. Cododd fyfi or pydew blin,a’r pridd tra gerwin tomlyd:A rhoes ar graig fy nhroed i wau,a threfn fy nghamrau hefyd.

3. A newydd gerdd i’m genau rhoes,clod iddo troes yn hylwydd.

4. Pawb ofnant pan y gwelant hyn,a chredan yn yr Arglwydd.

5. Pob gwr yn ddiau dedwydd ywa rotho ar Dduw ei helynt:A’r beilch, a’r ffeils a’r chwedlan tronid edrych efo arnynt.

6. Aml (o Dduw) yw y gwrthiau tau,fel dy feddyliau ynny:A heb un dyn yn dysgu i ti,nac yn blaenori hynny.

7. Y rhai pe y ceisiwn i drwy gred,eu rhoi ar led, a’i canu,Mwy amlach ydynt nag y gallun dyn heb pall eu traethu.

8. Ni fynnaist offrwm rhodd, na gwerth,na chwaith un aberth cennyf:Er hyn fy nghlustiau i mewn pryd,hwy a egoryd ymy.

9. Hyn pan wrthodaist dwedais i,Duw wele fi yn dyfod

10. Megis o honof mae gwir puryn dy ysgrythur hynod.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 40