Hen Destament

Salm 36:6-12 Salmau Cân 1621 (SC)

6. Dy uniondeb fel mynydd mawr,dy farn fel llawr yr eigion.Dy nerth fyth felly a barhâ,i gadw da, a dynion.

7. O mor werth fawr (fy Arglwydd Dduw)i bawb yw dy drugaredd!I blant dynion da iawn yw bodynghysgod dy adanedd.

8. Cyflawn o frasder yw’r ty tau,lle lenwir hwythau hefyd.Lle y cânt ddiod gennyt Ion,o flasus afon hyfryd.

9. Gyda thi mae y loywffrwd hon,a dardd o ffynnon einioes:A'th deg oleuni, ac â’th râd,y cawn oleuad eisoes.

10. O ystyn etto i barhau,dy drugareddau tirion:Ni a’th adwaenom di, a’th ddawn,i’r rhai sydd uniawn galon.

11. O Dduw im’ herbyn i na ddoed,na ffyrdd, na throed y balchffol,A llestair attaf, fel na ddaw na gwaith,na llaw’r annuwiol.

12. Felly y syrthiodd gynt, yn wir,y rhai enwir a’r drygwaith,Felly gwthiwyd i lawr hwyntwy,heb godi mwy yr eilwaith.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 36