Hen Destament

Salm 36:4-10 Salmau Cân 1621 (SC)

4. Ef yn ei wely ni chais hun,ond gosod llun ar gelwydd:Os yn effro, neu yn ei waith,ni ochel daith annedwydd.

5. Dy drugaredd (fy Arglwydd Ion)sydd hyd eithafon nefoedd:A'th wirionedd di sydd yn gwau,hyd y cymylau dyfroedd.

6. Dy uniondeb fel mynydd mawr,dy farn fel llawr yr eigion.Dy nerth fyth felly a barhâ,i gadw da, a dynion.

7. O mor werth fawr (fy Arglwydd Dduw)i bawb yw dy drugaredd!I blant dynion da iawn yw bodynghysgod dy adanedd.

8. Cyflawn o frasder yw’r ty tau,lle lenwir hwythau hefyd.Lle y cânt ddiod gennyt Ion,o flasus afon hyfryd.

9. Gyda thi mae y loywffrwd hon,a dardd o ffynnon einioes:A'th deg oleuni, ac â’th râd,y cawn oleuad eisoes.

10. O ystyn etto i barhau,dy drugareddau tirion:Ni a’th adwaenom di, a’th ddawn,i’r rhai sydd uniawn galon.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 36