Hen Destament

Salm 36:2-12 Salmau Cân 1621 (SC)

2. Mae yn cyd ddwyn â’i fai ei hun,ni wyl mo’i wrthun drosedd:Nes cael yn eglur i’r holl fydei gâs wyd, a’i anwiredd.

3. Os ei ymadrodd, mae heb wir,ei enau dihir hydwyll,Ni fyn wneuthur dim da ychwaith,yr adyn diffaith dibwyll.

4. Ef yn ei wely ni chais hun,ond gosod llun ar gelwydd:Os yn effro, neu yn ei waith,ni ochel daith annedwydd.

5. Dy drugaredd (fy Arglwydd Ion)sydd hyd eithafon nefoedd:A'th wirionedd di sydd yn gwau,hyd y cymylau dyfroedd.

6. Dy uniondeb fel mynydd mawr,dy farn fel llawr yr eigion.Dy nerth fyth felly a barhâ,i gadw da, a dynion.

7. O mor werth fawr (fy Arglwydd Dduw)i bawb yw dy drugaredd!I blant dynion da iawn yw bodynghysgod dy adanedd.

8. Cyflawn o frasder yw’r ty tau,lle lenwir hwythau hefyd.Lle y cânt ddiod gennyt Ion,o flasus afon hyfryd.

9. Gyda thi mae y loywffrwd hon,a dardd o ffynnon einioes:A'th deg oleuni, ac â’th râd,y cawn oleuad eisoes.

10. O ystyn etto i barhau,dy drugareddau tirion:Ni a’th adwaenom di, a’th ddawn,i’r rhai sydd uniawn galon.

11. O Dduw im’ herbyn i na ddoed,na ffyrdd, na throed y balchffol,A llestair attaf, fel na ddaw na gwaith,na llaw’r annuwiol.

12. Felly y syrthiodd gynt, yn wir,y rhai enwir a’r drygwaith,Felly gwthiwyd i lawr hwyntwy,heb godi mwy yr eilwaith.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 36