Hen Destament

Salm 35:12-28 Salmau Cân 1621 (SC)

12. Drwg ym’ dros dda talent heb raid,a’m henaid braint ymddifad.

13. Ond fi, tra fyddent hwy yn glaf,rhown i’m nesaf liein-sach:Drwy hir ymostwng ac ympryd,cymrais fy myd yn bruddach,Yr un dosturiol weddi fau,a ddaeth o’m genau allan,A droes eilwaith (er fy lles)i’m mynwes i fy hunan.

14. Mi a ymddygais mor brudd dlawd,fel am fy mrawd neu ’nghymar:Neu fel arwyl dyn dros ei fam,ni cherdda’i gam heb alar.

15. Hwythau yn llawen doent ynghyd,pan bwysodd adfyd attaf:Ofer ddynion, ac echrys lufyth ym mingammu arnaf.

16. Rhai’n rhagrithwyr, rhai’n watworwyr,torrent hwy eiriau mwysaidd:Hwy a ’sgyrnygent arnaf fi,bob daint, a’r rheini’n giaidd.

17. Arglwydd edrych, ow pa ryw hydyw’r pryd y dof o’i harfod?Gwared fy enaid rhag y bedd,f’oes o ewinedd llewod.

18. Minnau a ganaf i ti glod,lle bo cyfarfod lluoedd:Ac a folaf dy enw a’th ddawn,wrth lawer iawn o bobloedd.

19. Na fydded lawen fy nghâs ddyn,i’m herbyn heb achossion:Ac na throed (er bwriadu ’mrâd)mo gwr ei lygad digllon.

20. Nid ymddiriedant dim mewn hedd,dychmygant ryfedd gelwydd:Dirwyn dichell, a gosod crywi’r rhai sy’n byw yn llonydd.

21. Lledu safnau, taeru yn dyn,a dwedyd hyn yn unblaid,Fei ffei ohonot, hwnt a thi,ni a’th welsom ni â’n llygaid.

22. Tithau (o Arglwydd) gwelaist hyn,mor daer yn f’erbyn fuon:Ac na ddos oddiwrthif ymhell,rhag dichell fy nghaseion.

23. Cyfod, deffro, fy Nuw i’m barn,yn gadarn gydâ’m gofid:

24. Dydi a fynni’r uniondeb,ni watwar neb o’m pledig.

25. Na âd i’r gelyn calon waelddiweddu cael i wynfyd:Na rhodresu fy llyncu’n grwn,llyncaswn hwn yn ddybryd.

26. Gwarth a gwradwydd iddynt a ddelsy’n codi uchel chwerthin:Gwisger hwynt â mefl ac â chas,sydd ym alanas ryflin.

27. Llawen fo’r llaill a llawn o glod,sy’n coelio ’mod yn gyfion.Dwedant, bid i’n Duw ni fawrhânt,am roi llwyddiant iw weision.

28. Minnau fy Arglwydd gyda’r rhai’n,myfyriaf arwain beunyddDy gyfiownder di, a’th fawr glod,â’m tafod yn dragywydd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 35