Hen Destament

Salm 3:1-8 Salmau Cân 1621 (SC)

1. O Arglwydd, amled ydyw’r gwyr,y sydd drallodwyr imi:A llawer iawn i’m herbyn sydd,o ddydd i ddydd yn codi.

2. Dwedai lawer o’r gwrthgyrch blaidyn drwm am f’enaid eisoes:Nid oes iddo yn ei Dduw Ior,chwaith mawr ystor o’r einiois.

3. Tithau O Arglwydd ymhob man,ydwyd yn darian ymy:Fy ngogoniant wyt: tu a’r nen,y codi ’ymhen i fyny,

4. Ar Dduw yr Arglwydd a’m holl lais,y gelwais yn dosturaidd.Ac ef a’m clybu i ar frys,o’i uchel freinllys sanctaidd.

5. Mi orweddais, ac a gysgais,ac mi a godais gwedi:Canys yr Arglwydd oedd i’m dal,i’m cynnal, ac i’m codi.

6. Nid ofnaf fi, o’r achos hwn,’mo fyrddiwn sydd yn barod:O bobloedd, o’m amgylch yn dyn,i’m herbyn wedi dyfod.

7. Cyfod ti Arglwydd, achub fi,drwy gosbi fy ngelynion:Trewaist yr eu torraist eu daint,er maint yr annuwiolion.

8. I’r Arglwydd byth (o achos hyn)y perthyn iechydwriaeth:Ac ar ei bobl y disgyn gwlithei fendith yn dra helaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 3