Hen Destament

Salm 29:3-10 Salmau Cân 1621 (SC)

3. Llais yr Arglwydd sydd uwch dyfroedd,Duw cryf pair floedd y daran.Uwch dyfroedd lawer mae ei drwn,nid yw ei swn ef fychan.

4. Llais yr Arglwydd, pan fytho llym,a ddengys rym a chyffro:A llais yr Arglwydd a fydd dwys,fel y bo cymwys gantho.

5. Llais yr Arglwydd a dyr yn fâny Cedrwydd hirlân union,Yr Arglwydd a dyr, yn uswydd,y Cedrwydd o Libânon.

6. Fel llwdn unicorn neu lo llonfe wna’i Libanon lammu,

7. A Sirion oll: llais ein Ior glâna wna’i fflam dân wasgaru.

8. Llais yr Arglwydd, drwy ddyrys lyn,a godai ddychryn eres:Yr Arglwydd a wna ddychryn fflwchdrwy holl anialwch Cades.

9. Llais yr Arglwydd y piau’r glod,pair i’r ewigod lydnu:Dinoetha goed: iw deml iawn ywi bob rhyw ei foliannu.

10. Yr Arglwydd gynt yn bennaeth oedd,ar y llif-ddyfroedd cethrin:Yr Arglwydd fu, ef etto sydd,ac byth a fydd yn frenin.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 29