Hen Destament

Salm 29:1-4 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Rhowch i’r Arglwydd, a rhowch yn chwyrn,chwi blant y cedyrn, foliant:Cydnabyddwch ei barch, a’i nerth,mor brydferth, a’i ogoniant.

2. Rhowch i enw yr Arglwydd glod,heb orfod mwy mo’ch cymmell,Addolwch Arglwydd yr holl fyd:mor hyfryd yw ei Babell!

3. Llais yr Arglwydd sydd uwch dyfroedd,Duw cryf pair floedd y daran.Uwch dyfroedd lawer mae ei drwn,nid yw ei swn ef fychan.

4. Llais yr Arglwydd, pan fytho llym,a ddengys rym a chyffro:A llais yr Arglwydd a fydd dwys,fel y bo cymwys gantho.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 29