Hen Destament

Salm 28:1-9 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Attad (Ion fy nerth) y rhof lef,Duw nef na fydd di fyddar:Os tewi, rhag fy mynd mor drist,a bod mewn cist dan ddaiar.

2. O Arglwydd, erglyw fy llais i,a derbyn weddi bruddaidd:Pan gottwyf fy nwy law o bell,Duw, tua’th gafell sanctaidd.

3. Ac na ddarostwng fi, fy Ior,dan ddwylo’r annuwiolionY rhai sy’n arwain minau mel,a rhyfel yn eu calon.

4. Yn ol bwriad eu calon gau,a’r twyll ddyfeisiau eiddynt,Yn ol eu drwg weithredoedd hwy,Duw tâl eu gobrwy iddynt.

5. Am na ’styriant weithredoedd Duw,ef a wna ddistryw arnynt:Ac na welent ei wyrth a’i râd,ni wna adeilad honynt.

6. Bendigaid fyddo’r Arglwydd nef,fe glybu lef fy ngweddi.

7. Yr Arglwydd yw fy nerth, a’m rhan,a’m tarian, a’m daioni.Ymddiriedais iddo am borth,a chefais gymorth gantho.Minnau o’m calon, drwy fawr chwant,a ganaf foliant iddo.

8. Yr Arglwydd sydd nerth i bob rhaia ymddiriedai’n hylyn:A’i eneiniog ef fydd maeth,ac iechydwriaeth iddyn.

9. Gwared dy bobl dy hun yn dda,bendithia d’etifeddiaeth.Bwyda, cyfod hwy, am ben hyndod iddyn dragwyddolfaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 28