Hen Destament

Salm 22:7-14 Salmau Cân 1621 (SC)

7. Pawb a’m gwelent, a’m gwatworent,ac a’m min-gamment hefyd,Ysgwyd eu pennau yn dra hy,a chwedi hynny dwedyd,

8. Ar yr Arglwydd rhoes bwys a chred,doed ef iw wared allan,Os myn ei ollwng ef ar led,cymered iddo ei hunan.

9. Duw tynnaist fi o groth fy mam,rhoist ynof ddinam obaith,Pan oeddwn i yn sugno hon,ac o’i dwy fron am harchwaith.

10. Arnat ti bwriwyd fi o’r bru,arnat ti bu fy ’mddiried:Fy Nuw wyt ti o groth fy mam,ffyddiais yt am fy ngwared.

11. Oddiwrthif fi yn bell na ddos,tra fo yn agos flinder,I’m cymorth i, gan nad oes neba drotho’i wyneb tyner.

12. Bustych lawer, a chryfion iawn,daethant yn llawn i’m gogylch.A theirw Basan o bob parth,yn codi tarth o’m hamgylch.

13. Egorant arnaf enau rhwthi’m bygwth, fel y llewod,A faent yn rhuo eisiau maeth,o raib ysclyfaeth barod.

14. Fel dwfr rwyfi yn diferu’n chwyrn,a’m hesgyrn, sigla’r rhei’ni:Fy nghalon o’m mewn darfu’n llwyr,fel cwyr a fai yn toddi.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 22