Hen Destament

Salm 22:19-31 Salmau Cân 1621 (SC)

19. Tithau fy nerth a’m harglwydd da,nac ymbellâ oddiwrthy,O bryssia, tydi yw fy mhorth,a thyr’d a chymorth ymy.

20. O dyr’d, ac achub yr oes faurhag ofn y cleddau ffyrnig,A gwared o feddiant y cify enaid i sy’n unig.

21. Ymddiffyn fi rhag y llew glwth,dwg o’i safn rhwth fy enaid,Achub a gwrando fi yn chwyrnrhag cyrn yr unicorniaid.

22. Mynegaf finnau d’enw yn buri’m brodur yn yr orsedd,Lle mwya’r gynulleidfa lân,dy glod a wna’n gyfannedd.

23. Hâd Iaco ac Israel, chwychwirhai ych yn ofni’r Arglwydd,Drwy ofn y rhowch iddo foliant,a rhowch ogoniant ebrwydd.

24. Cans ni’ch llysodd, ni’ch dirmygodd,ni chuddiodd ei wynebpryd,Eithr gwrandawodd weddi y gwan,a’i duchan yn ei adfyd.

25. Honot ti bydd, ac i ti gweddmewn aml orsedd fy moliant.I Dduw rhof f’addunedau’n llongar bron y rhai a’i hofnant.

26. Diwellir y tlodion:a’r rhai a geisiai yr ArglwyddA’i molant ef, fo gaiff (gwir yw)eich enaid fyw’n dragywydd.

27. Trigolion byd a dront yn rhwyddat yr Arglwydd pan gofiant:A holl dylwythau’r ddaear hondônt gar ei fron, ymgrymant.

28. Cans yr Arglwydd biau’r dyrnas,a holl gwmpas y bydoedd:Ac uwch eu llaw, ef unig syddben llywydd y cenhedloedd.

29. Y cyfoethogion a fwytânt,addolant yn eu gwynfyd:Rhai a ânt i’r llwch gar ei fron,a rhai, braint meirwon hefyd.

30. Y rhai’n oll a’i hâd, yn un frydgwnânt iddo gyd wasanaeth:A’r rhai’n i’r Arglwydd drwy’r holl dira rifir yn genhedlaeth.

31. Dont, dangosant ei uniondeby rhai sydd heb eu geni:Hyn a addawodd, ef a’i gwnaeth,hynny a ddaeth o ddifri.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 22