15. Fel priddlestr mae fy nerth mor swrth,ynglyn wrth fy ngorchfanauMae fy nhafod, yr wyf mor drwch,fy nghyfle yw llwch angau.
16. Cans cwn cylchasant fi, fy Ner,a chadfa sceler ddiffaith:Cloddiasant fy nwy law a’m traed,Ac felly gwnaed fy artaith.
17. A rhifo fy holl esgyrn i,gan gulni hawdd y gallaf,Maent hwythau’n gweled hynny’n wych,bob tro yn edrych arnaf.
18. Rhyngthynt iw mysg y dillad mauyn rhannau dosbarthasant,A hefyd ar fy mrhif-wisc icoelbrenni a fwriasant.
19. Tithau fy nerth a’m harglwydd da,nac ymbellâ oddiwrthy,O bryssia, tydi yw fy mhorth,a thyr’d a chymorth ymy.
20. O dyr’d, ac achub yr oes faurhag ofn y cleddau ffyrnig,A gwared o feddiant y cify enaid i sy’n unig.
21. Ymddiffyn fi rhag y llew glwth,dwg o’i safn rhwth fy enaid,Achub a gwrando fi yn chwyrnrhag cyrn yr unicorniaid.
22. Mynegaf finnau d’enw yn buri’m brodur yn yr orsedd,Lle mwya’r gynulleidfa lân,dy glod a wna’n gyfannedd.
23. Hâd Iaco ac Israel, chwychwirhai ych yn ofni’r Arglwydd,Drwy ofn y rhowch iddo foliant,a rhowch ogoniant ebrwydd.
24. Cans ni’ch llysodd, ni’ch dirmygodd,ni chuddiodd ei wynebpryd,Eithr gwrandawodd weddi y gwan,a’i duchan yn ei adfyd.
25. Honot ti bydd, ac i ti gweddmewn aml orsedd fy moliant.I Dduw rhof f’addunedau’n llongar bron y rhai a’i hofnant.
26. Diwellir y tlodion:a’r rhai a geisiai yr ArglwyddA’i molant ef, fo gaiff (gwir yw)eich enaid fyw’n dragywydd.