Hen Destament

Salm 22:1-7 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Dangos fy Nuw, fy Nuw, a’m grym,ba achos ym gadewaist.Pell wyd o’m iechyd, ac o nâdfy ’mloeddiad, llwyr i’m pellaist.

2. Fy Nuw ’rwy’n llefain, tithau hebroi ym’ mor atteb etto,Bob dydd a nos mae ’nghri’n diffael,a heb gael mo’m dihuddo.

3. A thi wyd sanct, sanct i barhau,lle daw gweddiau’n wastad:A holl dy Israel a’i clod,a’i pwys a’i hystod attad.

4. Yno’t gobeithiai’n tadau ni,a thydi oedd eu bwccled:Ymddiried ynot: Arglwydd hael,ac felly cael ymwared.

5. Llefasant drwy ymddiried gynt,da fuost iddynt: Arglwydd:Eu hachub hwynt a wnaethost dirhag cyni a rhag gwradwydd.

6. Fo’m rhifir innau megis pryf,nid fel gwr cryf ei arfod:Fel dirmyg dynion, a gwarth gwaelA thybiant gael eu hystod.

7. Pawb a’m gwelent, a’m gwatworent,ac a’m min-gamment hefyd,Ysgwyd eu pennau yn dra hy,a chwedi hynny dwedyd,

Darllenwch bennod gyflawn Salm 22