1. Paham y terfysc gwyr y byd,a pham y cyfyd rhodres?Pam y mae’r bobloedd yn cyd-wau,yn eu bwriadau diles?
2. Codi y mae brenhinoedd byd,a’u bryd yn gydgynghorol:Yn erbyn Duw a’i Christ (ein plaid)y mae pennaethiaid bydol.
3. Drylliwn eu rhwymau, meddau hwy;ni wnawn ni mwy ufydd-dod:Ac ymaith taflwn eu trom iau,ni chant yn frau mo’n gorfod.
4. Ond Duw’r hwn sydd uwch wybrol lena chwardd am ben eu geiriau:Yr Arglwydd nef a wel eu bar,efe a’i gwatwar hwythau.
5. Yna y dywaid yn ei lid,a hyn fydd rhy brid iddyn:O’i eiriau ef y cyfyd braw,a’i ddig a ddaw yn ddychryn.