Hen Destament

Salm 19:1-14 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Datgan y nefoedd fowredd Duw,yr unrhyw gwna’r ffurfafen.

2. Y dydd i ddydd, a’r nos i nos,sy’n dangos cwrs yr wybren.

3. Er nad oes ganthynt air nac iaith,da y dywaid gwaith Duw lywydd,Diau nad oes na mor, na thir,na chlywir eu lleferydd.

4. Aeth eu sain hwy drwy yr holl fyd,a’i geiriau hyd eithafoedd.Yr haul teg a’i gwmpas sydd bell,a’i babell yn y nefoedd.

5. O’r hon y cyfyd ef yn rhod,fel priod o’i orweddfa.Iw gwrs cyrch drwy lawenydd mawrfel cawr yn rhedeg gyrfa.

6. O eithaf hyd eithafoedd nef,y mae ef a’i amgylchiad,Ac ni all dim (lle rhydd ei dro)ymguddio o’i oleuad.

7. Dysg yr Arglwydd sydd berffaith ddawna dry i’r iawn yr enaid,Felly rhydd ei wir dystiolaethwybodaeth i’r ffyddloniaid.

8. Deddfau Duw Ion ydynt union,llawenant galon ddiddrwg,A’i orchymyn sydd bur diaua rydd olau i’r golwg.

9. Ofn yr Arglwydd sydd lân:ac byth y pery’n ddilyth hyfryd,Barnau’r Arglwydd ynt yn wir llawni gyd, a chyfiawn hefyd.

10. Mwy deisyfedig ynt nac aur,ie na choethaur lawer,Melysach hefyd ynt na’r mel,sef dagrau terfel tyner.

11. Cans ynthynt dysgir fi, dy wâsar addas a’r unionder:A’r holl gamp sy o’i cadw nhwy,felly cair gobrwy lawer.

12. Er hynny i gyd, pwy a alliawn ddeall ei gamweddau?O gwna fi’n lân, (a bydd ddiddig)o’m holl guddiedig feiau.

13. Duw attal feiau rhyfig, chwant,na thyfant ar fy ngwarthaf:Yno byddaf wedi ’nglanhauo’m holl bechodau mwyaf.

14. O Arglwydd, fy mhrynwr a’m nerth,bydded yn brydferth gennyd.Fy ’madrodd, pan ddel gar dy fron,a’m myfyr calon hefyd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 19