Hen Destament

Salm 15:1-7 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Dywaid i mi pa ddyn a drig,i’th lys barchedig: Arglwydd?A phwy a erys ac a fyddym mynydd dy sancteiddrwydd?

2. Yr hwn a rodia’n berffaith dda,yr hwn a wna gyfiownder:A’r hwn a draetha o’i galon wir,a drig ar dir uchelder.

3. Yr hwn ni ddywaid, ac ni wna,ddim ond o’r da bigilydd:Ac ni chynnwys y rhai a roniw cymdogion gwilydd.

4. Y’r hwn sydd isel yn ei fryd,yn caru’i gyd gristnogion,Yr hwn sy’n ofni’r Arglwydd Dduw,ac sydd yn byw yn ffyddlon.

5. Yr hwn ni thyng ddim ond y gwir,er dir neu niwed iddo:Ac ni ro ei arian yn llog,er dwyn cymydog dano.

6. Na gobr, na rhodd, yr hwn ni fyn,er dal yn erbyn gwirion.

7. A wnelo hyn ni lithra fyth,fe gaiff y ddilyth goron.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 15