1. Cenwch i’r Arglwydd, ac iawn fydd,ryw ganiad newydd rhyfedd:A chlywer ynghynlleidfa’r Sainct,ei fawr fraint a’i orfoledd.
2. Boed Israel lawen a ffraeth,yn Nuw a’u gwnaeth yn ddibrin:A byddant hyfryd blant Seion,yn Nuw eu tirion frenin.
3. Molant ei Enw ar y bibell,a thympanell, a thelyn:
4. Cans bodlon iw bobl yw i gyd,rhydd iechyd i’r lledneus-ddyn.
5. Iw Sainct ef doed gorfoledd iawn,a hon yn llawn gogoniant,Yn eu gweiau, (yn llawn ddull)ac yn eu stefyll canant.