Hen Destament

Salm 146:6-10 Salmau Cân 1621 (SC)

6. Hwn Dduw a wnaeth nef, dayar, mor,a’r holl ystor sydd ynthynt:Hwn a saif yn ei wir ei hun,pryd na bo un ohonynt.

7. Yr hwn i’r gwael a rydd farn dda,a bara i’r newynllyd,Fe ollwng Duw y rheidus gwâr,o’i garchar ac o’i gaethfyd.

8. Yr Arglwydd egyr llygaid dall,ef a dyr wall gwael ddynion:Ymgleddu’r gwan mae’n Harglwydd ni,a hoffi y rhai cyfion.

9. Dieithraid, a’r ymddifad gwan,a’r weddw druan unig,Duw a’i pyrth: ond dyrysu wnaiholl ffyrdd pob rhai cythreulig:

10. Yr Arglwydd yn teyrnasu a fydd,dy Dduw tragywydd Seion:O oes i oes pery dy lwydd:molwch yr Arglwydd tirion.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 146