Hen Destament

Salm 146:1-7 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Fy enaid mola’r Arglwydd nef,

2. Mi ’ai molaf ef i’m bywyd:Dangosaf glod i’m Harglwydd Dduw,tra gallwyf fyw na symmyd.

3. Na wnech hyder ar dwysogion,nac ar blant dynion bydol:Am nad oes ynddynt hwy i gyd,na help nac iechyd nerthol.

4. Pan el y ffun o’r genau gwael,a’r corph i gael daiar-lan:Felly dychwel, fel dyna’r dyddy derfydd ei holl amcan.

5. Y pryd hwn gwyn ei fyd efoa rotho ei holl obaithAr Dduw Jaco yn gymorth da,pan el oddi yma ymaith.

6. Hwn Dduw a wnaeth nef, dayar, mor,a’r holl ystor sydd ynthynt:Hwn a saif yn ei wir ei hun,pryd na bo un ohonynt.

7. Yr hwn i’r gwael a rydd farn dda,a bara i’r newynllyd,Fe ollwng Duw y rheidus gwâr,o’i garchar ac o’i gaethfyd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 146