Hen Destament

Salm 144:1-13 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Bendigaid for Arglwydd fy nerth,mor brydferth yr athrawaFy nwylo’i ymladd, a’r un wedd,fy mysedd i ryfela.

2. Fy nawdd, fy nerth, fy nug, fy nghred,fy nhwr, f’ymwared unig:Cans trwyddo ef fy mhobl a gaftanaf yn ostyngedig.

3. Pa beth yw dyn, dywaid o Dduw,pan fyddyt iw gydnabod?A mab dyn pa beth ydyw fo,pan fych o hono’n darbod?

4. Pa beth yw dyn? peth yr un wedda gwagedd heb ddim honno:A'i ddyddiau’n cerdded ar y rhod,fal cysgod yn myned heibio.

5. Gostwng y nefoedd: Arglwydd da,ac edrych draha dynion:Duw cyffwrdd a’r mynyddoedd fry,gwna iddynt fygu digon.

6. Iw gwasgar hwynt gyrr fellt i wau,iw lladd gyrr saethau tanbaid.

7. Discyn, tyn fi o’r dyfroedd mawr:hyn yw, o law’r estroniaid.

8. Duw gwared fi. Geneuau ’rhai’na fydd yn arwain gwegi:A'i dehau law sy yr un bwyll,ddeheulaw twyll, a choegni.

9. I ti Dduw, canaf o fawrhad,yn llafar ganiad newydd:Ar nabl, ac ar y deg-tant,cei gerdd o foliant beunydd.

10. Duw i frenhinoedd rhoi a wnaeth,ei swccraeth at iawn reol:Dan ymwared Dafydd ei was,rhag cleddyf cas niweidiol.

11. Duw gwared, achub fi wrth raid,rhag plant estroniaid digus:A’i safn yn llawn o ffalsder gau,ba’i dehau yn dwyllodrus.

12. Bydd ein meibion mal planwydd cu,o’r bon yn tyfu’n iraidd:A’n merched ni fel cerrig nadd,mewn conglau neuadd sanctaidd.

13. A’n conglau’n llawnion o bob peth,a’n defaid, difeth gynnydd,Yn filoedd (mawr yw’r llwyddiant hwn)a myrddiwn i’n heolydd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 144