Hen Destament

Salm 143:5-12 Salmau Cân 1621 (SC)

5. Ac ar fy nghalon drom daeth braw:ond wrth fyfyriaw rhagor.Mi a gofiais y dyddiau gynt,a helynt gwaith dy ddwylo:Am hyn myfyriais, fy Nuw Naf,am hyn myfyriaf etto.

6. Fy nwylaw attad rhois ar led,lle y mae f’ymddiried unig:Am danad f’enaid sydd yn wir,un wedd â’r tir sychedig.

7. Yn ebrwydd gwrando fi yn rhodd,o Arglwydd, pallodd f’yspryd:Rhag imi fyned i’r pwll du,fel rhai a ddarfu eu bywyd.

8. Par i’m ar frys glywed dy nawdd,cans ynot hawdd y credais:A dysg i’m rodio dy ffyrdd rhâd,cans f’enaid attad codais.

9. A gwared fi fy Nuw, a’m Ion,rhag fy ngelynion astrys:Am fod fy lloches gydâ thi:

10. o dysg i mi d’ewyllys:Cans tydi ydwyt y Duw mau,boed d’ Yspryd tau i’m tywysAr yr uniondeb yn y tir,dyma dy wir ewyllys.

11. Duw, er mwyn d’enw fi bywhâ,a helpa f’enaid tyner:Allan o ing Duw cais ei ddwyn,ac er mwyn dy gyfiownder.

12. A gwna ar yr elynol blaid,caseion f’enaid, gerydd:Difetha hwynt er mwyn dy râs,cans mi wyf dy was ufydd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 143