Hen Destament

Salm 143:1-7 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Erglyw fy arch, o Arglwydd mâd,wyf arnad yn gweddio:O’th wirionedd, a’th gyfiownedd,gofynnaf yt fy ngwrando.

2. Ac na ddos i’r farn â’th wâs gwael,(pa les i’m gael cyfiownder?)Am nad oes dyn byw gar dy fronyn gyfion pan ei teimler.

3. Y gelyn a erlidiodd f’oes,mewn llwch i’m rhoes i orwedd:Fal y rhai meirwon a fai’n hir,is tywyll dir a’i hannedd.

4. Yna fy ysbryd, mewn blin ing,a fu mewn cyfing-gyngor:

5. Ac ar fy nghalon drom daeth braw:ond wrth fyfyriaw rhagor.Mi a gofiais y dyddiau gynt,a helynt gwaith dy ddwylo:Am hyn myfyriais, fy Nuw Naf,am hyn myfyriaf etto.

6. Fy nwylaw attad rhois ar led,lle y mae f’ymddiried unig:Am danad f’enaid sydd yn wir,un wedd â’r tir sychedig.

7. Yn ebrwydd gwrando fi yn rhodd,o Arglwydd, pallodd f’yspryd:Rhag imi fyned i’r pwll du,fel rhai a ddarfu eu bywyd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 143