Hen Destament

Salm 141:1-10 Salmau Cân 1621 (SC)

1. O Bryssia Arglwydd, clyw fy llais,o brysur gelwais arnad:O’r man lle’y bwyf gwrando fy llef,a doed i’r nef hyd attad.

2. Fy ngweddi gar dy fron a ddalw,gan godi dwylaw’n uchel,Yn arogl darth ac aberth hwyr,fel union ddiwyr lefel.

3. O Arglwydd gosod, rhag gair ffraeth,gadwriaeth ar fy ngenau,Rhag i’m gam-ddwedyd, gosod ddorar gyfor fy ngwefusau.

4. Na phwysa ’nghalon at ddrwg beth,ynghyd-bleth â’r annuwiol:Nag mewn cydfwriad gwaith neu wedd,rhag twyll eu gwledd ddaintethol.

5. Boed cosp a cherydd y cyfiawn,fel olew gwerthlawn arnaf:Ni friw fy mhen, bo mwyaf fo,mwy trosto a weddiaf.

6. Eu barnwyr pe bwrid i’r llawr,ar greigiau dirfawr dyrys:Gwrandawent ar f’ymadrodd i,a chlywent hi yn felys.

7. Fel darnau cynnyd o goed mân,a fwrian rhyd y ddaiar,Mae’n hesgyrn ninnau yr un wedd,ym mron y bedd ar wasgar.

8. Mae ’ngolwg a’m holl obaith i,Duw, arnat ti dy hunan:Duw bydd di’n unic yn fy mhlaid,na fwrw f’enaid allan.

9. Cadw fi Arglwydd rhag y rhwyd,hon a osodwyd ymy,Telm yr annuwiol, hoenyn main,rhag ofn i’r rhain fy magly.

10. Yr anwireddwyr b’ado un,cwympant eu hun iw rhwydau,Ymddiried ynot ti a wnaf,ac felly diangaf innau.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 141