Hen Destament

Salm 14:1-9 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Fe ddwedai’r ynfyd nad oes Duw,ac felly byw drwy goegni,Ymlygru’n ffiaidd, ni chais gel:nid oes a wnel ddaioni.

2. O’r nef yr edrychodd yr Ionar holl drigolion daear,A roddai neb ei goel a’r Dduw,a cheisio byw’u ddeallgar.

3. Fe giliodd pawb at lygredd byd,ymdroent i gyd mewn brynti:Nid oes un a wnel well nâ hyn,nac un a fyn ddaioni.

4. Eu gwddf sy fedd agored caumaent â thafodau ’strywgar.A gwenwyn lindis sy’n parhaudan eu gwefusau twyllgar.

5. A’i genau llawn (fel gwenwyn llith)o felldith, ac o fustledd:Ac anian esgud yw eu traedi dywallt gwaed a dialedd.

6. Distryw ac anhap sy’n eu ffyrddni’ dwaenant briffyrdd heddwch:Nid oes ofn Duw’n eu golwg hwy,ni cheisiant mwy ’difeirwch.

7. Pam? oni wyddant hwy eu boddrwy bechod, y modd yma,Yn ysu fy mhobl a’i cildroi,un wedd a chnoi y bara?

8. Gweddio’r Arglwydd hwy ni wnânt,yn hyn dychrynant luoedd:Am fod Duw’n dala gydâ’r iawn,yn un a’r cyfiawn bobloedd.

9. Gwradwyddech gynt gyngor y tlawdfal y gwnewch drallawd etto:Am i’r tlawd gredu y doe llwyddoddiwrth yr Arglwydd iddo.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 14