Hen Destament

Salm 137:4-9 Salmau Cân 1621 (SC)

4. O Dduw pa fodd y canai neb,(rhoem atteb yn ystyriol)I chwi o gerdd ein Harglwydd Dâd,a ni mewn gwlad estronol?

5. Os â Chaersalem o’r cof mau,anghofied dehau gany:

6. Na throed fy nhafod, oni bydd,hi’n ben llawenydd ymy.

7. Cofia di Dduw, blant Edom lemm,yn nydd Caersalem howddgar.Noethwch dynoethwch (meddei rhai’n)ei mur a’i main i’r ddaiar.

8. Bydd gwyn eu byd i’r sawl a wneliti merch Babel rydost,Yr unrhyw fesur, gan dy blau,i minnau fel y gwnaethost.

9. Y sawl a gymro dy blant di,bo’r rhei’ni fendigedig,Ac a darawo’r eppil tan,a’i pennau wrth y cerrig.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 137