2. Rhoddasom ein telynau’n ’nghrog,ar goed canghennog irion.Lle yr oedd preniau helyg plan,o ddeutu glann yr afon.
3. Y rhai a’n dug i garchar caeth,ini yn ffraeth gofynnen:A ni’n bruddion, gerdd i Seion,sywaeth peth nis gallen:
4. O Dduw pa fodd y canai neb,(rhoem atteb yn ystyriol)I chwi o gerdd ein Harglwydd Dâd,a ni mewn gwlad estronol?
5. Os â Chaersalem o’r cof mau,anghofied dehau gany:
6. Na throed fy nhafod, oni bydd,hi’n ben llawenydd ymy.