Hen Destament

Salm 137:1-3 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Pan oeddym gaeth yn Babilon,ar lan prif afon groyw,Mewn coffadwriaeth am Seion,hidlason ddagrau’n loyw.

2. Rhoddasom ein telynau’n ’nghrog,ar goed canghennog irion.Lle yr oedd preniau helyg plan,o ddeutu glann yr afon.

3. Y rhai a’n dug i garchar caeth,ini yn ffraeth gofynnen:A ni’n bruddion, gerdd i Seion,sywaeth peth nis gallen:

Darllenwch bennod gyflawn Salm 137