Hen Destament

Salm 136:4-23 Salmau Cân 1621 (SC)

4. Hwn unic a wnaeth wrthiau mawr,drwy ei ddirfawr ddaioni.

5. Gwaeth â’i ddoethineb nef uwchben,

6. a’r ddaiaren a’r dyfredd,Y rhai yw prif sylwedd y byd,ac i gyd o’i drugaredd.Molwch yr Arglwydd (cans da yw)moliennwch Dduw y llywydd,Cans ei drugaredd oddi fry,a bery yn dragywydd.

7. R’ hwn a wnaeth oleuadau mawr,o’r nef hyd lawr a’i fowredd.

8-9. Haul y dydd, â’r lleuad y nos,i ddangos ei drugaredd.

10. ’Rhwn a drawodd yr Aipht iw ddig,a’r blaen-anedig ynthi,

11. Ac a ddug Israel i’r daith,ac ymmaith o’i holl gyni.

12. A hyn drwy law gref a braich hir,o rym ei wir ogonedd:

13. A hollti’r mor coch yn ddwy ran,o anian ei drugaredd.

14. Dug Israel i’r lan yn wych,fel dyna ddrych gorfoledd:

15. Yscyttian Pharo, a’i holl lu,a hyn a fu’i drugaredd.Molwch yr Arglwydd (cans da yw) moliennwch &c.

16. A dwyn ei bobloedd yn ddichwys,drwy wledydd dyrys anian:

17. Taro brenhinoedd er eu mwyn,ac felly eu dwyn hwy allan.

18. Lladd llawer brenin cadarn llon,

19. sef Sehon yr Amoriaid:

20. Ac Og o Basan yn un wedd,o’i fawr drugaredd dibaid.

21. A’i holl diroedd hwyntwy i gyd,eu rhoi yn fywyd bydol

22. I Israel ei was a wnaeth,yn etifeddiaeth nerthol.Molwch yr Arglwydd (cans da yw) moliennwch &c.

23. Hwn i’n cystudd a’n cofiodd ni,o’i fawr ddaioni tirion.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 136