12. Fy neddfau a’m cyfammod i,dy feibion di os cadwant:O blann i blann o gaingc i gaingc,hwy ar dy faingc a farnant.
13. Cans fy Arglwydd, o serch a bodd,a rag-ddewisodd Seion:I drigo ynthi rhoes ei fryd,gan ddwedyd geiriau tirion:
14. Hon fyth fydd fy ngorphwysfa i,o hoffder ynthi trigaf.
15. Bendithiaf hi â bwyd di ball,a’i thlawd diwall o fara.
16. Ag iechydwriaeth, medd Duw naf,y gwisgaf ei heglwyswyr:A rhoddaf yngenau pob Sancto’i mewn, ogoniant psallwyr.
17. Paraf hyn oll, ac felly y bydd,corn Dafydd yn goronog:Felly darperais, gan fy mhwyll,brif ganwyll i’m eneiniog.
18. Am ei elynion, o bob parth,y gwiscaf warth a gwradwydd,Paraf hefyd iw goron foflodeuo: medd yr Arglwydd.