Hen Destament

Salm 132:1-5 Salmau Cân 1621 (SC)

1. O cofia Ddafydd, fy Nuw Ner,a’i holl wrth-flinder hefyd:

2. Pa lw adduned a roes foi Dduw Jaco, gan dwedyd,

3. Nid âf o fewn pabell fy nhy,a’m gwely mwy nis dringaf:

4. Ni roddaf i’m dau lygad hun,amrantun chwaith ni chysgaf:

5. Nes caffwyf gyflo yn ddi rus,i Arglwydd grymus Jaco.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 132