1. O cofia Ddafydd, fy Nuw Ner,a’i holl wrth-flinder hefyd:
2. Pa lw adduned a roes foi Dduw Jaco, gan dwedyd,
3. Nid âf o fewn pabell fy nhy,a’m gwely mwy nis dringaf:
4. Ni roddaf i’m dau lygad hun,amrantun chwaith ni chysgaf:
5. Nes caffwyf gyflo yn ddi rus,i Arglwydd grymus Jaco.
6. Wele’n Ephrata clywsom fodlle o breswylfod iddo.Cawsom hi ym meusydd y coed.
7. Pawb doed iw bebyll tirion:Awn, ymgrymwn, pawb ufyddhaed,wrth ei faingc droed yn union.
8. F’arglwydd, cyfod i’th esmwyth lys,a’th arch o rymmus fowredd.
9. Gwisged d’offeiriaid gyfion fraint,gwisged dy Sainct wirionedd.
10. Er mwyn Dafydd dy ffyddlon wâs,na thyn dy râs yn llidiog:Ac na wrthneba di er neb,mo wyneb dy enneiniog.