Hen Destament

Salm 131:1-4 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Yn fy nghalon ni bu falch chwydd,o Arglwydd, na dim tynder,Ni chodais chwaith drahaus wgi’m golwg o dra uchder.

2. Ac ni rodiais yma a thraw,i dreiglaw pethau mowrion:Ni fanwl chwiliais am wybodrhyfeddod a dirgelion.

3. Gostyngais f’enaid i mewn pryd,fel pan ddiddyfnyd herlod:Fy enaid sydd fel un a fugwedi ei ddiddyfnu’n barod.

4. Ond disgwilied ty Israelwrth wir Imanuel beunydd,Sef wrth yr Arglwydd o’r pryd hyn,heb derfyn yn dragywydd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 131