Hen Destament

Salm 130:5-8 Salmau Cân 1621 (SC)

5. Disgwyliais f’Arglwydd, wrth fy rhaid,disgwyliodd f’enaid arno.Rhois fy holl obaith yn ei air,

6. f’enaid a gair yn effro.Ac am yr Arglwydd gwilio’y bydd,fwy nâ gwiliedydd difri:A edrych blygain bob pen awr,a welo’r wawr yn codi.

7. Un wedd disgwylied Israel,yn ddirgel am yr Arglwydd,Cans mae nawdd gyda’r Arglwydd nef,mae yntho ef rywiogrwydd.Ei drugareddau ânt ar lled,fe rydd ymward ini.

8. Fe weryd Israel: fal hyn,fo’i tyn o’i holl ddrygioni.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 130