Hen Destament

Salm 130:1-6 Salmau Cân 1621 (SC)

1. O’r dyfnder gelwais arnat Ion,

2. O Arglwydd tirion gostwngDy glust, ystyria y llais mau,clyw fy ngweddiau teilwng.

3. Duw, pwy a saif yn d’wyneb di,os creffi ar anwiredd?

4. Ond fel i’th ofner di yn iawn,yr wyd yn llawn trugaredd.

5. Disgwyliais f’Arglwydd, wrth fy rhaid,disgwyliodd f’enaid arno.Rhois fy holl obaith yn ei air,

6. f’enaid a gair yn effro.Ac am yr Arglwydd gwilio’y bydd,fwy nâ gwiliedydd difri:A edrych blygain bob pen awr,a welo’r wawr yn codi.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 130