Hen Destament

Salm 129:2-6 Salmau Cân 1621 (SC)

2. A llawer gwaith y cefais lid,o’m gwan ieuengctid allan:A blin gystudd ar lawer tro,ac etto ni’m gorfuan’.

3. Yr arddwyr arddent y cefn mau,drwy rhwygo cwysau hirion:

4. Y cyfion Ner torrodd yn frau,bleth-didau’r annuwiolion.

5. Pa rai bynnag a roesant gâsar degwch dinas Seion,Gwradwydder hwynt, cilient iw hol,y rhai annuwiol creulon.

6. Byddant fel y glâs wellt a faiar bennau tai yn tyfu,Yr hwn fydd, cyn y tynner fo,yn gwywo, ac yn methu.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 129