Hen Destament

Salm 126:1-7 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Pan ddychwelodd ein gwir Dduw Iongaethiwed Seion sanctaidd:Mor hyfryd gennym hyn bob un,a rhai mewn hun nefolaidd.

2. Nyni â’n genau yn dda’n gwedd,gorfoledd ar ein tafod:

3. Ymhlith cenhedloedd dwedynt hyn,fe wnaeth Duw drostyn ysod.

4. Ystod fawr a wnaeth Duw yn wir,ein dwyn i’n tir cynnefinO gaethiwed y gelyn llym,am hyn yr ym yn chwerthin.

5. O cynnull ein gweddillion ni,tro adre’ rhei’ni eilwaith,Gan dy lif-ddyfroedd fel y gwlychy dehau sych a diffaith.

6. Y rhai sy’n hau mewn dagrau blin,hwyntwy dan chwerthin medant:Felly f’Arglwydd dan droi y byd,dwg ni i gyd i’r meddiant.

7. Y rhai dan wylo aeth o’r wlad,fel taflu hâd rhyd gryniau:Drwy lawenydd y dont ynghyd,fel casglu yd yn dyrrau.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 126