1. Pan ddychwelodd ein gwir Dduw Iongaethiwed Seion sanctaidd:Mor hyfryd gennym hyn bob un,a rhai mewn hun nefolaidd.
2. Nyni â’n genau yn dda’n gwedd,gorfoledd ar ein tafod:
3. Ymhlith cenhedloedd dwedynt hyn,fe wnaeth Duw drostyn ysod.
4. Ystod fawr a wnaeth Duw yn wir,ein dwyn i’n tir cynnefinO gaethiwed y gelyn llym,am hyn yr ym yn chwerthin.
5. O cynnull ein gweddillion ni,tro adre’ rhei’ni eilwaith,Gan dy lif-ddyfroedd fel y gwlychy dehau sych a diffaith.