Hen Destament

Salm 124:1-8 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Dyma’r amser yn ddi ymgel,gall Israel, fynegi,Yr Arglwydd nef oni bai ei foda’i arfod gydâ nyni.

2. Gydâ ni oni bai ei fod,pan ddaeth gwrth-drafod dynion:

3. Pan gododd llid i’n, a phoeni,llyngcasent ni yn fywion.

4. Y dyfroedd a’n boddasent ni,a’n hoes dan gefn lli buan:

5. Chwyddasent drosom, fel chwydd dwr:fal dyna gyflwr truan.

6. Bendigaid Ior ei law a droes:ac ef ni roes mo honomYn ysglyfaeth i’n rhwygo’n frauiw gwâg efeilliau llymion.

7. Ein henaid aeth yn rhydd o lyn,fal yr aderyn gwirion,Rhwyd yr adarwr torri a wnaeth,a minnau aeth yn rhyddion.

8. Ein holl gynnorthwy ni, a’n llwydd,sy’n nerth yr Arglwydd howddgar,Yr hwn drwy waith ei ddwylaw ef,a greawdd nef a daiar.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 124