1. I Dy’r Arglwydd (pan ddwedent) awn,i’m llawen iawn oedd wrando.
2. Sai’n traed o fewn Caer-Salem byrth,yr un ni syrth oddiyno.
3. Caersalem lân ein dinas ni,ei sail sydd ynddi’i hunan:A'i phobl sydd ynddi yn gytun,a Duw ei hun a’i drigfan.
4. Cans yno y daw y llwythau ’nghyd,yn unfryd, llwythau’r Arglwydd:Tystiolaeth Israel a’i drig-fod,a chlod iw fawr sancteiddrwydd.
5. Cans yno cadair y farn sydd:eisteddfod Dafydd yno.
6. Erchwch i’r ddinas hedd a mawl:a llwydd i’r sawl a’th garo.
7. O fewn dy gaerau heddwch boed,i’th lysoedd doed yr hawddfyd.
8. Er mwyn fy mrodyr mae’r arch hon,a’m cymydogion hefyd.
9. Ac er mwyn ty’r Arglwydd ein Duw,hwn ynot yw’n rhagorol:O achos hyn yr archaf fi,i ti ddaioni rhadol.
Darllenwch bennod gyflawn Salm 122