1. O achub bellach Arglwydd cu,fe ddarfu’r trugarogion:A’r holl wirionedd a’r ball aetho blith hiliogaeth dynion.
2. A gwefus gweniaith dwedant ffug,er twyll a hug i’r eiddyn:A chalon ddyblyg yr un weddy cair oferedd ganthyn.
3. Yr Arglwydd torred o’i farn faithwefusau’r gweniaith diles:A’r holl dafodau ffrostus iawna fytho llawn o rodres.
4. Gallwn orfod o nerth tafod,dwy wefus y sydd eiddom:Fal hyn y dwedant hwy yn rhwydd,a phwy sydd Arglwydd arnom?
5. Yntau ein Duw a ddwedodd hyn,rhag llethu’r gwaelddyn codaf:Y dyn gofidus, tlawd, a’r caeth,mewn iechydwriaeth dodaf.
6. Pur iawn yw geiriau’r Arglwydd nefa’i ’ddewid ef sydd berffaith,Fel arian o ffwrn, drwy aml drowed’i goeth buro seithwaith.
7. Ti Arglwydd, yn ol dy air di,a’i cedwi mewn hyfrydwchByth rhag y ddrwg genhedlaeth hon,dy weision i gael heddwch.
8. Pan dderchafer y trowsion blin,da ganthyn drin anwiredd:Felly daw dynion o bob parthi fwyfwy gwarth o’r diwedd.
Darllenwch bennod gyflawn Salm 12