Hen Destament

Salm 12:1-4 Salmau Cân 1621 (SC)

1. O achub bellach Arglwydd cu,fe ddarfu’r trugarogion:A’r holl wirionedd a’r ball aetho blith hiliogaeth dynion.

2. A gwefus gweniaith dwedant ffug,er twyll a hug i’r eiddyn:A chalon ddyblyg yr un weddy cair oferedd ganthyn.

3. Yr Arglwydd torred o’i farn faithwefusau’r gweniaith diles:A’r holl dafodau ffrostus iawna fytho llawn o rodres.

4. Gallwn orfod o nerth tafod,dwy wefus y sydd eiddom:Fal hyn y dwedant hwy yn rhwydd,a phwy sydd Arglwydd arnom?

Darllenwch bennod gyflawn Salm 12