Hen Destament

Salm 118:10-20 Salmau Cân 1621 (SC)

10. Doed y cenhedloedd arna’i gyd,a’i bryd ar wneuthur artaith:Ond yn enw y gwir Arglwydd Naf,myfi a’i torraf ymaith.

11. Daethant i’m cylch ogylch i’m cau,ac ar berwylau diffaith,Ond yn enw’r gwith Arglwydd Naf,myfi a’i torraf ymaith.

12. Daethant i’m cylch fel gwenyn mân:fal diffodd tân mewn goddaith,Yn enw yr Arglwydd yr wyf fiyn eu diffoddi ymaith.

13. Fy nghaf-ddyn gwthiaist atta’n gryf,i geisio gennyf syrthio.

14. Duw a’m cadwodd,sef Ion fy ngrym,fy iechyd i’m, ac etto.

15. Am orfoledd Duw y bydd sonyn nhai rhai cyfion dwyfol,Mai’r Arglwydd Dduw â’i law ddehau,a wnaeth y gwrthiau nerthol.

16. Deheulaw’r Arglwydd drwy ei nawddef a’i derchafawdd arnom:A dehau law yr Arglwydd nef,a wnaeth rymusder drosom.

17. Nid marw onid byw a wnaf,mynegaf waith yr Arglwydd,

18. Hwn a’m cospodd, ond ni’m lladdodd,yn hyttrach lluddiodd aflwydd.

19. Agorwch ym byrth cyfiownder,o’i mewn Duw ner a folaf.

20. Porth yr Arglwydd fal dyma fo,ânt iddo’r rhai cyfiownaf.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 118