Hen Destament

Salm 118:1-6 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Molwch yr Arglwydd, cans da ywmoliannu Duw y llywydd.Oherwydd ei drugareddau,sydd yn parhau’n dragywydd.

2. Dweded Israel da yw ef,a’i nawdd o nef ni dderfydd.

3. Dyweded ty Aaron mai da yw,trugaredd Duw’n dragywydd.

4. Y rhai a’i hofnant ef yn lân,a ganan yr un cywydd.Rhon iw drugaredd yr un glod,sef ei bod yn dragywydd.

5. Im hing gelwais ar f’Arglwydd cu,hawdd gantho fu fy nghlywed:Ef a’m gollyngodd i yn rhyddo’i lân dragywydd nodded.

6. Yr Arglwydd sydd i’m gyda’ mi,nid rhaid ym’ ofni dynion.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 118