1. Molwch yr Arglwydd, cans da ywmoliannu Duw y llywydd.Oherwydd ei drugareddau,sydd yn parhau’n dragywydd.
2. Dweded Israel da yw ef,a’i nawdd o nef ni dderfydd.
3. Dyweded ty Aaron mai da yw,trugaredd Duw’n dragywydd.
4. Y rhai a’i hofnant ef yn lân,a ganan yr un cywydd.Rhon iw drugaredd yr un glod,sef ei bod yn dragywydd.
5. Im hing gelwais ar f’Arglwydd cu,hawdd gantho fu fy nghlywed:Ef a’m gollyngodd i yn rhyddo’i lân dragywydd nodded.
6. Yr Arglwydd sydd i’m gyda’ mi,nid rhaid ym’ ofni dynion.
7. Yr Arglwydd sydd ynghyd â mi,er cosbi fy ngelynion.
8. Gwell yw gobeithio yn Nuw cun,nag mewn un dyn o’r aplaf:
9. Gwell yw gobeithio yn yr Ion,nâ’r tywysogion pennaf.
10. Doed y cenhedloedd arna’i gyd,a’i bryd ar wneuthur artaith:Ond yn enw y gwir Arglwydd Naf,myfi a’i torraf ymaith.
11. Daethant i’m cylch ogylch i’m cau,ac ar berwylau diffaith,Ond yn enw’r gwith Arglwydd Naf,myfi a’i torraf ymaith.