Hen Destament

Salm 111:7-10 Salmau Cân 1621 (SC)

7. Gwirionedd a barn ydyw gwaithei ddwy law berffaith efo:A'i orchmynion sy ffyddlon iawn,a da y gwnawn eu gwrando.

8. Y rhai’n sy gwedi eu sicrhau,dros byth yn ddeddfau cyfion:Gwedi eu gwneuthur hwy mewn hedd,a thrwy wirionedd union.

9. Anfonodd gymmorth iw bobl ef,cyfammod gref safadwy:Archodd hyn: bo iw enw sawl,sancteiddiawl ac ofnadwy.

10. Dechreuad pob doethineb ddofni bawb yw ofn yr Arglwydd,Da yw deall y sawl a’i gwnai,a’i ofn a sai’n dragywydd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 111