Hen Destament

Salm 111:5-8 Salmau Cân 1621 (SC)

5. Ef i bob rhai a’i hofnant ef,rhydd gyfran gref at fywyd:Ac yn dragywydd y myn fodcof o’i gyfammod hefyd.

6. Mynegodd ef iw bobl i gyd,gadernyd ei weithredoedd:A rhoddi iddynt hwy a wnaeth’tifeddiaeth y cenhedloedd.

7. Gwirionedd a barn ydyw gwaithei ddwy law berffaith efo:A'i orchmynion sy ffyddlon iawn,a da y gwnawn eu gwrando.

8. Y rhai’n sy gwedi eu sicrhau,dros byth yn ddeddfau cyfion:Gwedi eu gwneuthur hwy mewn hedd,a thrwy wirionedd union.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 111