3. Yn nydd dy nerth dy bobl a ddaw,ag aberth llaw’n wyllysgar,Yn sanctaidd hardd daw’r cynnyrch tauo wlith y borau hawddgar.
4. Yr Arglwydd tyngodd, ac ni wâd,ti sy’n offeiriad bythol,Wrth urdd Melchisedech odd’ fry,a bery yn dragwyddol.
5. Yr Arglwydd ar dy ddehau law,brenhinoedd draw a friwa,Yn nydd ei ddig gwna’n archollionfrenhinoedd cryfion, meddaf.
6. Ar y cenhedloedd rhydd farn iawn,a’i gwlad gwna’n llawn celanedd:A llawer pen dros wledydd mawr,a dyrr ei lawr yn unwedd.
7. O wir frys i’r gyflafan hon,fe yf o’r afon nesaf:A gaffo ar ei ffordd yn rhwydd,a’r Arglwydd a’i derchafa.