Hen Destament

Salm 11:1-5 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Credaf i’r Arglwydd yn ddi-nam:paham y dwedwch weithianWrth f’enaid, hwnt, a hed i’th fryn,fel wrth aderyn bychan?

2. Wele’r annuwiol a’i bwâu,a’i cawell saethau’n barod,Am wirioniaid yn llechu’n fain,i saethu’r rhai’n o gysgod.

3. Y seilfain oll i lygredd aeth:ond beth a wnaeth y gwirion?

4. Mae’r Arglwydd yn ei ddinas gref,fe weryd ef y cyfion.Yr Arglwydd o’i orseddfa fryat y tlawd try ei olwg,Gweithredoedd holl hiliogaeth dyn,iw lygaid ydyn amlwg.

5. Mae’r Arglwydd o’r naturiaeth hon,prawf gyfion er ymgeledd,Ond câs yw gan ei enaid foddyn drwg a hoffo wagedd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 11