Hen Destament

Salm 107:10-24 Salmau Cân 1621 (SC)

10. Y rhai mewn tywyllwch a drig,ynghysgod llewig angau,Yn rhwym mewn nychdod, ac mewn bâr,a heyrn ar eu sodlau.

11. A hyn o herwydd iddynt fod,mewn anufydd-dod eithaf:A llwyr ddirmygu gair Duw Ior,a chyngor y Goruchaf.

12. A thrymder calon cwympiwyd hwy,nid oedd neb mwy a’i cododd.

13. Ar Dduw mewn ing y rhoesant lef,ac yntef a’i gwaredodd.

14. Ef a’i gwaredodd hwynt o’i drwg,sef o dywyllwg caeth-glud,O gysgod angau eu rhyddhau,a thorri eu rhwymau hefud.

15. Addefent hwythau gar ei fron,ei fwynion drugareddau,Ac i blant dynion fel y gwnaethyn helaeth ryfeddodau.

16. Cans y pyrth pres torrodd yn chwyrna’r barriau heyrn hefyd:

17. Am eu bai a’i camwedd yn wir,y poenir y rhai ynfyd.

18. A hwynt yn laru ar bob bwyd,fe’i dygwyd at byrth angau.

19. Ar Dduw mewn ing y rhoesant lef,achubodd ef hwynt hwythau,

20. Gan yrru ei air iw iachau,ac iw rhyddhau yn fuan:A hwynt â’i air tynnu a wnaetho’i methedigaeth allan.

21. Addefant hwythau gar ei fron,ei fwynion drugareddau:Ac i blant dynion fel y gwnaethyn helaeth ryfeddodau.

22. Aberthant hefyd aberth mawl,iw ogoneddawl fawredd:A mynegant ei waith a’i wyrth,yn ei byrth mewn gorfoledd.

23. Y rhai ânt mewn llongau i’r don,a’i taith uwch mawrion ddyfroedd,

24. A welsant ryfeddodau’r Ion,a hyn mewn eigion moroedd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 107